Adam Price AC
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Chwefror 2018

 

Annwyl Adam

 

Diolch am eich llythyr dyddiedig 18 Rhagfyr. Noder mai dim ond ar 31 Ionawr y cyrhaeddodd y llythyr hwn fy swyddfa. O gofio bod y dyddiad hwn ar ôl ein sesiwn dystiolaeth lafar ar y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), ni chawsom gyfle i drafod y materion perthnasol â’r Aelod Cyfrifol.

 

Fodd bynnag, rydym wedi cael cyfle i drafod trefniadau craffu ac atebolrwydd ar gyfer yr Ombwdsmon yn fwy cyffredinol yn ystod ein gwaith craffu. Yn benodol, cafodd y materion hyn eu trafod ynghyd â’r materion a godwyd gan Gymdeithas yr Iaith a gennych chi.

 

Nid wyf yn disgwyl y bydd y Pwyllgor yn gwneud unrhyw argymhellion yn galw am welliannau i’r Bil i wneud unrhyw ddarpariaeth ychwanegol ynghylch trefniadau craffu ac atebolrwydd yr Ombwdsmon. Fodd bynnag, mi fydd cyfle i’r holl Aelodau gyflwyno gwelliannau i’r Bil os yw’r Cynulliad yn cytuno ar ei egwyddorion cyffredinol.

 

Fel y Pwyllgor sy’n gyfrifol am graffu ar waith yr Ombwdsmon, byddwn yn parhau i drafod y mater hwn fel rhan o’n gwaith craffu parhaus.

 

 

Yn gywir

John Griffiths AC
Cadeirydd

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.